Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement is usually updated daily at midday. Published: Tuesday 13 April 12pm Dr Giri
Shankar, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said: “Due to an issue beyond the
control of Public Health Wales, our data dashboard will not be updated at the
usual time of midday and will instead be published later today. We regret any
inconvenience this may cause. As of yesterday, Monday 12
April, a number of restrictions have been eased as the levels of positive cases
continues to fall. “All children have returned to
face-to-face education as well as all post-16 learners returning to further
education. Training centres and university campuses can open for blended face
to face learning for all students. “All remaining shops can
reopen, and all close contact services - including mobile services - can resume. “Viewings at wedding venues
can resume by appointment, and outdoor canvassing for the upcoming elections is
permitted. “In addition, the travel
restrictions on travelling into and out of Wales have been lifted. However,
restrictions on travel to countries outside the Common Travel Area without a
reasonable excuse, remain in place. “While this easing of
restrictions following the declining number of positive cases is welcome, we
would remind the general public that it Coronavirus is still circulating in our
communities and a large number of people have not been fully vaccinated. It is therefore vital that people observe
social distancing, where face coverings when in indoor spaces, and wash hands
regularly. These actions will help to
prevent transmission of the virus. “As schools return please do
not send your child to school if they are unwell, even if you are not sure if
they have Coronavirus. “When you take your child to
school, always keep your distance from other parents, wear a face covering, and
don’t stay around and chat. Please don’t invite other children or their parents
to your home to play or stay indoors, even if they are in the same bubble at
school. We need to continue to limit the numbers of people we meet socially to
minimise spread of the virus. “Welsh Government restrictions
state that you should not go into any other household or mix indoors with other
people who you don’t live with. Currently a maximum of six people from two
households can meet outdoors, including in private gardens. “Please continue to work from
home if at all possible. “Welsh Government also
announced last week that gyms and leisure centres will be able to open from 3
May - instead of 10 May - while two households can ‘bubble up’ to meet indoors
from the same date. Wedding receptions outdoors for up to 30 people will be
allowed from 26 April, also moving forward a week. “Current information on the
Welsh Government restrictions for Coronavirus are available at https://gov.wales/coronavirus “This week The Medicines and Healthcare
Regulatory Agency (MHRA) and Joint Committee on Vaccination and Immunisation
(JCVI) provided an update on the Oxford AstraZenca vaccine following reports of
an extremely rare and specific type of blood clot following vaccination. “The
AstraZeneca vaccine remains safe and effective and has already saved thousands
of lives. Those who have received a first dose of the vaccine, should continue
to receive a second dose. “The risk
benefit remains strongly in favour of vaccination with the AstraZeneca vaccine
for those aged 30 and over, and those aged under 30 who have underlying health
conditions which puts them at higher risk of severe outcomes from Coronavirus
infection. However, adults aged 18-29 years old who do not have underlying
health conditions will now be offered an alternative vaccine. “We
are making some changes to the way we
publish information on our website and data dashboard. “Starting on 17 April, we will no longer be publishing Coronavirus data
or a daily statement on our website on Saturdays. However, when we do publish
our reports on Sunday that will include the results and the data for the period
of Saturday as well. “We are doing this because case numbers are now low therefore any
fluctuation day-to-day can give rise to potentially misleading interpretation
and we want to be focusing more on the underlying trends. “Our surveillance team will however retain the ability to ramp back up
to seven day reporting if necessary. “If you are contacted by your local TTP team then it is
important that you are truthful with them about where you have been and who you
have met. They are not there to judge,
they are there to help prevent ongoing transmission of the virus and to protect
the community. “If you are asked to self-isolate by your local TTP team
then please ensure that you do so for the full ten days – this will help break
any chains of transmission. “We urge anyone over 50 who has not
yet received an invite for their vaccination to contact their local health
board. Details of which can be found
here:https://gov.wales/get-your-covid-19-vaccination-if-you-think-you-have-been-missed
“We encourage everyone, whatever their
background, social demographic and ethnicity, to have the vaccine when they are
offered it. “Coronavirus
cases by variant in Wales are reported on the UK Government website. The dominant strain in Wales is
the Kent variant, and there is currently no evidence of widespread community
transmission of other Variants of Concern in Wales. “Restrictions on UK and international travel remain in
place. More information on current travel guidance is available on the Welsh Government website. “The red list of travel ban countries has been extended,
and Bangladesh, Kenya, Pakistan and Philippines have been added. “If you arrived in the UK from these places before 4am on
Friday 9 April, you must self-isolate for 10 days in the place you’re staying
and take a Coronavirus test on day 2 and day 8. “If you have arrived in the UK from these places after
4am on Friday 9 April, you must stay in your quarantine hotel for your 10-day
quarantine period and take a Coronavirus test on day 2 and day 8.
“If
you or a member of your household develop a cough, fever or change in sense of
taste or smell, you must self-isolate immediately and book a free Coronavirus
test, either by
calling 119 or by visiting www.gov.wales/getting-tested-coronavirus-covid-19. Please check your local health board’s
website to see if there are additional symptoms that require a test.”
Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 13 Ebrill 12yh Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad
ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd
Cyhoeddus Cymru: “Oherwydd
problem sydd y tu hwnt i reolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, ni chaiff ein
dangosfwrdd data ei ddiweddaru ar yr amser arferol, sef ganol dydd. Yn hytrach,
caiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw
anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. “Ers ddoe,
ddydd Llun 12 Ebrill, mae nifer o gyfyngiadau wedi’u llacio wrth i lefel yr
achosion positif barhau i ostwng. “Mae pob
plentyn wedi dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb a bydd pob myfyriwr ôl-16 yn
dychwelyd i addysg bellach. Gall canolfannau hyfforddi a champysau prifysgolion
agor ar gyfer dysgu cyfunol wyneb yn wyneb i bob myfyriwr. “Bydd yr
holl siopau eraill yn gallu ailagor, a gall yr holl wasanaethau cyswllt agos -
gan gynnwys gwasanaethau symudol - ailddechrau. “Gall
ymweliadau â lleoliadau priodi barhau trwy apwyntiad, a chaniateir canfasio yn
yr awyr agored ar gyfer yr etholiadau sydd ar ddod. “Yn ogystal,
mae’r cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru wedi’u codi. Fodd bynnag,
bydd cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin
heb reswm rhesymol yn parhau ar waith. “Er y
croesewir llacio’r cyfyngiadau hwn yn dilyn y gostyngiad yn nifer yr achosion
positif, byddem yn atgoffa’r cyhoedd bod Coronafeirws yn dal i gylchredeg yn
ein cymunedau ac mae nifer fawr o bobl heb gael eu brechu’n llawn. Felly mae'n hanfodol bod pobl yn cadw pellter
cymdeithasol, eu bod yn gwisgo gorchuddion wyneb pan fyddant dan do, ac yn
golchi’u dwylo'n rheolaidd. Bydd y camau
hyn yn helpu i atal trosglwyddo'r feirws. “Wrth i
ysgolion ddychwelyd, peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os yw'n sâl, hyd
yn oed os nad ydych yn siŵr a oes ganddo/ganddi Coronafeirws. “Pan fyddwch
yn mynd â’ch plentyn i’r ysgol, cadwch bellter oddi wrth rieni eraill ar bob
adeg, gwisgwch orchudd wyneb a pheidiwch ag aros o gwmpas i siarad. Peidiwch â
gwahodd plant eraill neu eu rhieni i’ch cartref i chwarae neu i aros dan do,
hyd yn oed os ydynt yn yr un swigen yn yr ysgol. Mae angen i ni barhau i
gyfyngu ar niferoedd y bobl rydym yn cwrdd â nhw’n gymdeithasol i leihau
lledaeniad yr haint. “Mae
cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn nodi na ddylech fynd i unrhyw aelwyd arall na
chymysgu dan do â phobl eraill nad ydych yn byw gyda nhw. Ar hyn o bryd, gall
uchafswm o chwech o bobl o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored, gan gynnwys
mewn gerddi preifat. “Parhewch i
weithio gartref os oes modd o gwbl. “Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru hefyd yr wythnos diwethaf y bydd campfeydd a chanolfannau
hamdden yn gallu agor o 3 Mai – yn lle 10 Mai – ac y gall dwy aelwyd greu
swigen a chwrdd dan do o’r un dyddiad. Caniateir derbyniadau priodas yn yr awyr
agored ar gyfer hyd at 30 o bobl o 26 Ebrill. Mae hyn yn symud wythnos yn
agosach hefyd. Mae
gwybodaeth gyfredol am gyfyngiadau Llywodraeth Cymru oherwydd COVID-19 ar gael
yn https://llyw.cymru/coronafeirws “Yr wythnos hon, rhoddodd
yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)
a’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ddiweddariad ar frechlyn
Rhydychen AstraZeneca yn dilyn adroddiadau o fath penodol a phrin iawn o glot
gwaed yn dilyn brechiad. “Mae brechlyn
AstraZeneca yn parhau i fod yn ddiogel ac yn effeithiol ac mae eisoes wedi
achub miloedd o fywydau. Dylai’r rhai sydd wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn
barhau i dderbyn ail ddos. “Mae’r
dadansoddiad o’r risgiau a’r manteision yn parhau yn gryf o blaid brechu â’r
brechlyn AstraZeneca ar gyfer y rhai sy’n 30 mlwydd oed neu’n hŷn, a’r rhai o
dan 30 mlwydd oed sydd â chyflyrau iechyd isorweddol, sy’n eu rhoi mewn perygl
uwch o ganlyniadau difrifol yn sgil cael eu heintio â Coronafeirws. Fodd
bynnag, bydd oedolion rhwng 18 a 29 mlwydd oed nad oes ganddynt gyflyrau iechyd
isorweddol yn cael cynnig brechlyn amgen erbyn hyn. “Rydym yn gwneud rhai newidiadau i’r ffordd
rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan a’n dangosfwrdd data. “Gan ddechrau ar
17 Ebrill, ni fyddwn yn cyhoeddi data Coronafeirws na datganiad dyddiol ar ein
gwefan ar ddydd Sadwrn mwyach. Fodd bynnag, pan fyddwn yn cyhoeddi ein
hadroddiadau ar ddydd Sul, byddant yn cynnwys y canlyniadau a'r data ar gyfer
dydd Sadwrn hefyd. “Rydym yn gwneud
hyn oherwydd bod nifer yr achosion bellach yn isel, felly gall unrhyw amrywiad
o ddydd i ddydd arwain at ddehongliad a allai fod yn gamarweiniol ac rydym
eisiau canolbwyntio mwy ar y tueddiadau sylfaenol. “Fodd bynnag,
bydd gan ein tîm gwyliadwriaeth y gallu i gynyddu hyn i saith diwrnod eto, os
bydd angen. “Os bydd eich tîm Profi, Olrhain, Diogelu lleol yn
cysylltu â chi, mae'n bwysig eich bod chi'n dweud y gwir wrthyn nhw ynglŷn â
lle rydych chi wedi bod a phwy rydych chi wedi cwrdd â nhw. Ni fyddant yn eich barnu. Eu nod yw helpu i
atal trosglwyddiad parhaus y feirws ac i ddiogelu’r gymuned. “Os yw eich tîm TTP lleol yn gofyn i chi hunanynysu,
gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny am y deg diwrnod llawn – bydd hyn yn
helpu i dorri unrhyw gadwyni trosglwyddo. “Rydym yn annog unrhyw un
dros 50 oed nad yw wedi derbyn gwahoddiad i gael brechlyn eto i gysylltu â'i
fwrdd iechyd lleol. Gellir gweld y manylion yma:
https://llyw.cymru/cael-brechlyn-covid-19-os-ydych-yn-credu-eich-bod-wedi-colli-allan
“Rydym yn annog pawb,
beth bynnag fo’u cefndir, eu demograffeg gymdeithasol a’u hethnigrwydd, i gael
y brechlyn pan gynigir ef. “Adroddir am
achosion o’r Coronafeirws fesul amrywiolyn yng Nghymru ar wefan Llywodraeth y DU. Y
straen amlycaf yng Nghymru yw amrywiolyn Caint ac, ar hyn o bryd, nid oes
tystiolaeth bod Amrywiolynnau sy’n Peri Pryder yn trosglwyddo’n eang yng
nghymunedau Cymru. "Mae cyfyngiadau ar deithio yn y DU ac yn
rhyngwladol yn parhau i fod ar waith.
Mae rhagor o wybodaeth am y canllawiau teithio cyfredol ar gael ar wefan
Llywodraeth Cymru. “Ymestynnwyd y rhestr goch o wledydd sydd â
gwaharddiad ar deithio iddynt/ohonynt, ac mae Bangladesh, Kenya, Pacistan ac
Ynysoedd Philippines wedi cael eu hychwanegu at y rhestr. “Os cyrhaeddoch y DU o'r lleoedd hyn cyn 4am ddydd
Gwener 9 Ebrill, mae’n rhaid i chi hunanynysu am 10 diwrnod lle byddwch yn aros
a chael prawf Coronafeirws ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8. “Os ydych chi wedi cyrraedd y DU o’r lleoedd hyn ar ôl
4am ddydd Gwener 9 Ebrill, rhaid i chi aros yn eich gwesty cwarantin am eich
cyfnod cwarantin o 10 diwrnod a chael prawf Coronafeirws ar ddiwrnod 2 a
diwrnod 8. “Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn
datblygu peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i chi hunanynysu
ar unwaith ac archebu prawf Coronafeirws am ddim, naill ai drwy ffonio 119 neu
drwy ymweld â https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19.
Edrychwch ar wefan eich bwrdd iechyd lleol i weld a oes symptomau eraill
sy’n gofyn am brawf.”
Mae'r datganiad hwn fel arfer yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol ganol dydd.